Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Digwyddiadau sydd wedi bod

Dyma rhai o’r pethau sydd wedi digwydd yn Plas Brondanw ers 2022



Noson Ffilm a Barddoniaeth gyda Jennifer Leach
'Life Cycles, Time and Acceptance'
27 Mawrth 2024
Bydd Jennifer yn dangos ei ffilm ddiweddar 'The River' ac yn rhannu ei barddoniaeth a'i hysgrifau. Bydd y noson yn cloi gyda rhannu barddoniaeth, felly dewch â’ch gwaith gyda chi. Bydd cerddi byrrach yn caniatáu mwy o gyfraniadau. Mae Jennifer Leach yn gweithio trwy gyfrwng y Saesneg, ond mae croeso i chi rhannu cerddi mewn unrhyw iaith.

The River yw ffilm ganolog ffilm 3 sgrin 30 munud; stori bywyd a ysgrifennwyd ar gyfer fy ffrind annwyl Anne Latto, storïwraig ac actor. Gan ddefnyddio’r trosiad oesol o fywyd fel afon, mae’n adlewyrchiad o hen wraig yn edrych yn ôl ar ei bywyd, wrth iddi droi i wynebu’r gorwel mawr. Mae hi'n dilyn llif yr atgofion, o'r ffynhonnell i'r môr. Amseroedd da, amseroedd caled, amseroedd i'w cofio, amseroedd i anghofio... mae'r ffilm yn deyrnged i fywyd, cyfeillgarwch, ysbryd a chof.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres preswyl Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths.


Sgwrs Artist gda Jennifer Leach


Sgwrs Artist gyda Jennifer Leach 'Yr Afon - celf a bywyd'
20 Mawrth 2024
Artist Gweledol, bardd, awdur, storïwr, gwneuthurwr ffilmiau, gwneuthurwr newidiadau a Chyfarwyddwr Outrider Anthems yw Jennifer Leach.

Gweledigaeth Outrider Anthems yw ymgysylltu’n emosiynol â chymunedau trwy stori a chreadigrwydd trwy drafodaethau am ein perthynas â’r Ddaear, y Bydysawd, cymdeithas a ni’n hunain. Rydym yn awyddus i ddyfeisio straeon newydd sy'n creu her a chydbwysedd.

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres breswyl yr Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths. Mae'r sgyrsiau hyn am ddim i'w mynychu, ac nid oes angen archebu lle. Saesneg yw iaith y digwyddiad hwn.


Life Drawing Sessions with Jane Muir


Sesiynau Darlunio o Fywyd gyda Jane Muir
23/01/2024 - 12/02/2024 - 11/03/2024

Rydym yn falch o gynnig tri sesiwn bywluniadu trwy’r dydd, ar y cyd gydag Addysg Oedolion Cymru (AOC). Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu gan AOC, ond rydym yn codi £20 y sesiwn i gyflogi’r model, bydd hyn i’w dalu ar ddiwrnod y sesiwn.


Plas Brondanw


Tony Russell – Sgwrs
Gerddi Clough Williams-Ellis (Plas Brondanw a Portmeirion)
28 Chwefror 2024

Bydd y darlledwr ac awdur ‘The Great Gardens of Wales’ Tony Russell yn cyflwyno sgwrs gyda lluniau, ar erddi Clough Williams-Ellis yma ym Mhlas Brondanw ac ym Mhortmeirion. Roedd Clough yn fwyaf adnabyddus fel pensaer, ond roedd ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn materion yn ymwneud â thirwedd a chynllunio. Roedd gerddi’n ganolog i’w syniadau ynglyn â’r berthynas rhwng adeiladau a’u safle, a’r berthynas rhwng y safle a’r tirwedd ehangach. Mae llawer yn ystyried gerddi Brondanw ymhlith ei waith gorau.


Cwrs Cyflwyniad i Farddoniaeth Gymraeg


Cwrs Cyflwyniad i Farddoniaeth Gymraeg gyda Rhys Jones
Chwe sesiwn, yn cychwyn 30 Ionawr 2024

Cyflwyniad i farddoniaeth Gymraeg ydy'r cwrs yma.

Ei fwriad yw rhoi cipolwg ar amrywiaeth a chyfoeth y traddodiad barddonol Cymreig. Byddwn yn darllen cerddi Taliesin o'r chweched ganrif, hyd at T. Gwynn Jones ar ddechrau'r ugeinfed.

Canolbwyntir ar ddarllen un gerdd yn wythnosol, a bydd cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o'r cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a llenyddol. Bydd cyfle hefyd i edrych ar grefft y beirdd a rhai o'r technegau llenyddol a ddefnyddir ganddynt. Yn ychwanegol, gyda chefnogaeth yn y dosbarth, byddwch yn meithrin y sgiliau i lunio ymateb personol i'r gweithiau hyn.

Mae'r gallu i siarad a darllen Cymraeg yn hanfodol.


cerdyn Nadolig gan Susan Williams-Ellis

Parti Plas
29 Rhagfyr 2023
Fe’ch gwahoddir i ddathlu’r gwyliau ym Mhlas Brondanw, gyda cherddoriaeth gan Twm Morys a Gwyneth Glyn, a chyfle i gymdeithasu a mwynhau cynhesrwydd y Plas ar ddiwedd blwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis am eu cyfraniad hael at gostau cynnal y parti, sydd am ddim i’w fynychu. Mae croeso i bawb, os ydych chi’n hen ffrind neu erioed wedi croesi’r trothwy o’r blaen.

Byddwn yn darparu rhywfaint o ddiodydd a lluniaeth ysgafn, ond os allech chi ddod a rhywbeth i’w rhannu, byddwn yn ddiolchgar iawn. Os hoffech chi ddod ac offeryn i jamio ar ôl i’r cerddorion swyddogol orffen eu set, byddai hynny’n hyfryd. Mae gyda ni biano yn y llyfrgell erbyn hyn, felly mae croeso i rywrai chwarae honno hefyd.


Gweithdy Tymhorol i Deuluoedd


Yn Nhymor Brenin y Celyn
Gweithdy Tymhorol i Deuluoedd
2 Rhagfyr 2023

I gydfynd a'r digwyddiad storïo sy'n digwydd yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn, dyma gyfle i wneud eich coron neu addurn bwrdd gaeafol eich hun, gyda deunyddiau naturiol a phlanhigion traddodiadol.

Bydd staff Plas Brondanw yn arwain y sesiwn hon, a bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.


Stori Tymhorol - Claire Mace


Stori Tymhorol - Claire Mace
2 Rhagfyr 2023

Yng Nghyfnod Brenin y Celyn: ymunwch â’r storïwraig Claire Mace am straeon tymhorol o bob rhan o Gymru. Cewch glywed am y Fari Lwyd, Hela'r Dryw a Wasael Gwyr. Bydd y stori yn cael ei hadrodd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae croeso mawr i deuluoedd dwyieithog ac i rhai sy'n dysgu'r iaith i fynychu.


r Bleddyn Huws - Dau fardd a dau gefnder

Dr Bleddyn Huws
‘Dau fardd a dau gefnder, Wil Oerddwr a T. H. Parry-Williams’
8 Tachwedd 2023

Mae Dr Bleddyn Huws yn uwch ddarlithydd yn adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yn cynnig golwg ar waith a pherthynas y ddau fardd enwog, yn cynnwys darganfyddiad newydd am soned y tybid oedd o law Parry-Williams, ond y gellid ei briodoli’n awr i Wil Oerddwr. Bydd y sgwrs hon trwy gyfrwng y Gymraeg.


Swper Cynhaeaf a Sgwrs


Swper Cynhaeaf a Sgwrs am Gwm Croesor yng nghwmi
Christine Mills, Siw Thomas a Ken Brassil
28 Hydref 2023
Fel dathliad o’r arddangosfa ‘Y Grib a’r Gogor’ gan Siw Thomas a Christine Mills, fe hoffai’r artistiaid eich gwahodd chi i swper cynhaeaf. Bydd y swper yn cynnwys cawl sylweddol, cawsiau lleol a phwdin fydd yn cael ei weini ar lestri wedi eu creu gan Siw Thomas yn ystod ei chyfnod preswyl ym Mhlas Brondanw. Bydd yr archeolegydd Ken Brassil yn cyflwyno sgwrs am ddaeareg, hanes, pobl a diwylliant Cwm Croesor.


Barddoniaeth y Tywysogion
Beirdd y Tywysogion - Tiwtor: Rhys Jones

24 Hydref 2023
Mae Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth a Plas Brondanw yn cynnig y cwrs hanner diwrnod hon yn rhad ac am ddim.

Cyflwyno beirdd y tywysogion yw bwriad y cwrs, a'r gobaith yw gwneud y cerddi'n hawdd i'w deall i gynulleidfa gyfoes.

‘Beirdd y Tywysogion’ yw'r enw cyffredinol a roddir ar y beirdd a fodolai yng Nghymru rhwng tua 1050 a 1300. Yr oeddynt yn rhan ganolog o fyd y tywysogion Cymreig, ac mae nifer dda o'r cerddi wedi'u cadw hyd heddiw. Yn ogystal â chael cyflwyniad i gefndir hanesyddol, cymdeithasol a llenyddol y beirdd, byddwch hefyd yn cael profiad o ddarllen gwaith rhai ohonnynt. Mae barddoniaeth y tywysogion yn rhoi cip olwg unigryw inni ar fywyd a meddwl y cyfnod, gan unigolion oedd yn llygaid dystion i'r blynyddoedd cyffrous hyn.


Hanes y Tywysogion


Hanes y Tywysogion
Tiwtor: James Berry

23 Hydref 2023
Cwrs byr 2 awr sy'n gobeithio datgelu pwy yn union oedd y Tywysogion. Cyfle i edrych arnynt yng ngoleuni ymchwil fodern. Mae'r cwrs yn gobeithio dangos yn hytrach na bod yn ynysig, eu bod yn rhan fawr o elit milwrol uchelwrol Ewrop gyfan, yn ceisio adeiladu teyrnasoedd ffiwdal cryf ar fodel Ewropeaidd.


Gwilum Morus


Cyngerdd
Gwilym Morus ac Osian Rhys

13 Hydref 2023
Hoffwn eich gwahodd i noson o gerddoriaeth yn y llyfrgell yn Plas Brondanw, gyda Gwilym Morus ac Osian Rhys Bydd hon yn noson gartrefol gyda chynulleidfa bach.

Mae Gwilym Morus yn chwarae cerddoriaeth werinol, fodern yn defnyddio effeithiau digidol yn gymysg â llais a gitâr. Mae’n cael ei ddisgrifio yn ‘angerddol, breuddwydiol a gwreiddiol’. Mae Osian Rhys yn gerddor sy’n wreiddiol o Lanystumdwy, sy’n perfformio caneuon gwerinol dan enw ei hun, ac fel prif leisydd y band roc amgen, Gwaed.

Bydd yn perfformio amrywiaeth o ganeuon mewn ffordd gynil ar gitâr acwstig.


Sgwrs Artistiaid, Lansiad Arddangosfa a Te Part


Sgwrs Artistiaid, Lansiad Arddangosfa a Te Parti
gyda Siw Thomas a Christine Mills

23 Medi 2023
Dewch i fwynhau te prynhawn yn Plas Brondanw yng nghwmni dwy artist sydd wedi bod yn creu gwaith yn y ty a’r gerddi dros yr haf. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn trafod y cyfnod preswyl a’r gwaith sydd wedi dod allan ohono gyda Sian Elen a Seran Dolma, a bydd te a chacen yn cael ei weini ar rhai o’r llestri mae Siw Thomas wedi eu creu. Bydd cyfle wedyn i edrych ar yr arddangosfa


Addysg Oedolion Cymru

Ysgol Haf Addysg Oedolion Cymru
21 Awst 2023
Celf - Hanes - Ysgrifennu creadigol



Sgwrs Artist
Manon Awst a Dr Sarah Pogoda

19 Awst 2023
Bydd sgwrs rhwng yr artist Manon Awst a’r academydd ac ymarferydd Avant Garde Dr Sarah Pogoda yn trafod y broses o greu gwaith i'r arddanosfa ‘Breuddwyd Gorsiog’ a'r syniadau sydd wedi datblygu yn sgîl y gwaith ymchwil ar gorsydd. Bydd y sgwrs hon yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg, ac efallai rhywfaint o Almaeneg hefyd!



Gweithdai Plant Gydag Artistiaid Preswyl
Siw Thomas a Christine Mills
Crasu a ffeltio

13 Aust 2023
Cyfle i blant gael tro ar ffeltio gyda Christine Mills.

Bydd y darnau clai a wnaethpwyd yn y gweithdy ar y 4ydd hefyd yn cael eu crasu yn ystod y gweithdy yma, a byddent ar gael i fynd adref yr wythnos wedyn. Mae croeso i blant fynychu un neu’r ddau weithdy yma.


Gweithdai Plantv Gydag Artistiaid Preswyl Siw Thomas a Christine-Mills


Gweithdai Plant Gydag Artistiaid Preswyl
Siw Thomas a Christine Mills
Clai

4 Awst 2023
Cyfle i’r plant gael tro ar wneud gwaith clai. Bydd y darnau yn cael eu crasu yn ystod y gweithdy dilynol ar y 13 Awst, ond does dim rhaid mynychu’r ddau weithdy.



Gweithdai Oedolion
Darlunio Golosg gyda Christine Mills

7 Gorffennaf 2023
Bydd y gweithdy hwn yn yr awyr agored os yw'r tywydd yn sych, ac yn y ty fel arall. Bydd yno amser am egwyl i gael paned, a chyfle i drafod y gwaith.

Nid oes angen profiad o waith celf er mwyn cymryd rhan. Darperir deunyddiau, ond mae croeso i chi ddod a phapur a golosg o soes gyda chi rhai.



Gweithdai Oedolion
Modelu o Fywyd mewn Clai gyda Siw Thomas

7 Gorffennaf 2023
Cyfle i arbrofi gyda darlunio’r ffurf ddynol mewn 3D, gan weithio o fodel byw. Bydd trafodaeth ar y dechrau am gerflunwaith ffigurol, dewch â delwedd o gerflun o ffurf ddynol i siarad amdano.

Nid oes angen profiad o waith celf er mwyn cymryd rhan. Darperir yr holl ddeunyddiau.


Gweithdy Cyflwyniad i Dechneg Alexander gyda Pippa Bondy


Gweithdy Cyflwyniad i Dechneg Alexander
gyda Pippa Bondy

3 Gorffennaf 2023
Mae’r Techneg Alexander yn cynnig cyfle i “ddad-ddysgu”. Mae’n ffordd cynnil o rhyddhau’r corff a’r meddwl o hen arferion ac agweddau a gwella eich lles cyfan. Mae’n eich dysgu sut i rheoli ac atal tensiwn, straen a phoen. Mae'r dechneg yn eich helpu i ailddarganfod ffordd fwy naturiol o symud, yn gwella ymwybyddiaeth ac yn annog teimlad newydd o egni a rhyddid. Fe'i defnyddir yn aml fel rhan o gyrsiau hyfforddiant yn y celfyddydau perfformio, ond mae'n fuddiol iawn i bawb.

Mae gan Pippa Bondy MSTAT, fwy na tri deg mlynedd o brofiad fel tiwtor Techneg Alexander. Am rhagor o wybodaeth - pipbondy.com


Sgyrsiau

Amabel: The Radical in the Plas, sgwrs gan yr athro Merfyn Jones. Ar gael yn: https://youtu.be/kNL_EeZvuz4

Cyfrinachau’r Traethau, sgwrs gan Haf Llewelyn, ar gael yn: https://youtu.be/FBjdY8Sey50

Ffilm: Sarah Nechamkin, Artist of Ibiza, ffilm gan Siân Cwper, ar gael yn: https://youtu.be/xCPi8lggbjk


Johnathan Powell


Sgwrs Johnathan Powell

Rhan o gyfres artistiaid preswyl Hafod

7 Mehefin 2023

‘Atgofion Tirwedd’


Olga Lamas


Sgwrs Olga Lamas

Rhan o gyfres artistiaid preswyl Hafod

17 Mai 2023

‘Natur / Diwylliant’


Carys Wilson

Sgwrs Carys Wilson

Rhan o gyfres artistiaid preswyl Hafod

5 Ebrill 2023

‘Cerdded a Meddwl, Meddwl a Cherdded’


Andrew Morrison


Sgwrs Andrew Morrison

Rhan o gyfres artistiaid preswyl Hafod

15 Mawrth 2023
Testun fel llun – llyfrau arlunydd ac argraffiadau yn seiliedig ar eiriau.


Agoriad Arddangosfa Agored a Gwobrwyo Enillydd 2023 – 11eg Mawrth 2023

Dewch i ddathlu agoriad ein arddangosfa agored blynyddol ac i longyfarch enillydd ein gwobr artist sy’n dod i’r amlwg fydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf y flwyddyn hon. Bydd yr enillydd yn cael £500 tuag at gost creu arddangosfa i’w arddangos yn Plas Brondanw y mis Medi y flwyddyn ganlynol.


Cymuned Utopias Bach - Mehefin 23 2022

Cynhaliwyd cynulliad misol grŵp Utopias Bach yn Plas Brondanw yn mis Mehefin 2022, gyda’r nôd o ail-ystyried rôl yr oriel, a chwarae gyda’r ffiniau rhwng artist a chynulleidfa.Gwahoddwyd pawb oedd yn bresenol ar y diwrnod i gymryd rhan mewn cynhyrchiad celfyddydol, trwy ymateb i wahoddiadau oedd wedi eu gosod yma ac acw o fewn y tŷ, i ysgrifennu, darlunio, gwisgo i fynnu, perfformio a chydweithredu.I wybod mwy am Utopias Bach ewch i: www.utopiasbach.org

Gweler oriel

Gweithdy ffeltio

Film: Sarah Nechamkin

Talk: Amabel The Radical in the Plas by Prof Merfyn Jones

Talk: Bob Owen Croesor

Gweithdy bywyd llonydd

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol

Gweithdy ffeltio

Talk: Cyfrinachau’r traethau, a talk by Haf Llewelyn

Hwylia dy Gwch

Gweithdai 2022