Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Blynyddoedd Crochenwaith Portmeirion (1960-88)

Dyluniadau ar gyfer Crochenwaith Portmeirion (cyfryngau amrywiol, yn aml wedi'u paentio â dyfrlliw neu gouache, ond hefyd nifer o frasluniau a darluniau, yn aml gyda nodiadau ysgrifenedig) llyfrau nodiadau, gohebiaeth, llungopïau, lithograffau, catalogau a phamffledi. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys nifer helaeth o wrthrychau crochenwaith Portmeirion, rhai ohonynt yn cael eu harddangos ym Mrondanw ac ym Mhentref Portmeirion.

Mae'n gred gyffredin mai ym Mhortmeirion y gwnaed Crochenwaith Portmeirion. Nid yw hyn yn wir, fe'i gwnaed (ac mae’n dal i gael ei wneud) yn Stoke-on Trent, ond ym Mhentref Portmeirion y ganed y syniad amdano.

Ym 1953, cymerodd Susan Williams-Ellis a’i gŵr Euan Cooper-Willis gyfrifoldeb am y siopau ym Mhentref Portmeirion. Anfonodd Susan nifer o’i dyluniadau i Grey’s Pottery yn Stoke-on-Trent, lle cawsant eu defnyddio i addurno eitemau crochenwaith plaen a gyflenwyd wedyn i’r Pentref i’w gwerthu fel cofroddion yn Siop y Llong ym Mhortmeirion.

Ym 1960, prynodd Susan Williams-Ellis ac Euan ffatri Gray’s, ac, yn fuan wedyn, y ffatri gyfagos, Kirkham’s. Ymgorfforwyd Portmeirion Potteries Limited yn 1962, a lansiwyd cyfres o grochenwaith llwyddiannus.Y mwyaf nodedig o’r cyfnod hwn oedd y pot coffi siâp silindr eiconig wedi’i addurno â phatrymau cerfwedd ‘Totem’.

Ym 1972, lansiwyd ‘Botanic Garden’, a hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dyma gyfres fwyaf poblogaidd Crochendy Portmeirion o hyd. Yn dilyn ei llwyddiant, roedd gan Susan syniadau mawr ar gyfer ffatri ger Pentref Portmeirion, a agorodd yn 1978. Fodd bynnag, roedd y logisteg yn heriol ac nid oedd yn bosibl gweithgynhyrchu crochenwaith yno.Er hynny, fe fyddai eitemau ail-safon o Stoke yn cael eu paentio â llaw yno, neu yn cael eu haddurno â throsglwyddiadau i’w dosbarthu a’u gwerthu’n lleol. . Mae stamp cefn y ddraig binc gyda’r geiriau ‘Porthmeirion Cynnyrch Cymru’ ar bob eitem sydd wedi’i haddurno yma. Nid oedd y ffatri yn llwyddiannus yn fasnachol, a chaeodd yn 1982.

Roedd Susan yn hoffi gwneud defnydd o’r hyn oedd ganddi, ac yn yr 1980au lansiwyd ‘British Heritage Range’, a grëwyd o fowldiau a oedd yn perthyn i Kirkhams gynt, y daeth o hyd iddynt mewn atig.

Ym 1988 daeth Portmeirion Potteries Ltd. yn Grŵp Portmeirion CCC, a pheidiodd â bod yn gwmni teuluol, h.y., nid oedd yn cael ei reoli gan Susan mwyach, er iddi barhau i ddylunio crochenwaith am weddill y ganrif.

Ym 1994 dyfeisiwyd Portmeirion China, datblygiad arloesol ym maes gweithgynhyrchu serameg. Dwy gyfres olaf fwyaf nodedig Susan, ar ddiwedd y 1990au, oedd ‘Romance of the Rose’, a ‘Caribbean Platter’, gyda’r olaf yn adlewyrchiad o’i hangerdd dros snorcelu mewn dyfroedd trofannol a thynnu lluniau o’r y pysgod yr oedd hi’n eu gweld.

Dyluniwyd yr holl serameg a ddarlunnir yma gan Susan Williams-Ellis, oni nodir yn wahanol.

1950s

Jwg morforwyn bychan, Crochendy Gray’s, c.1985, a Jwg Dolphin, llathr ‘Sunderland lustre’, Portmeirion Ware / Gray's Pottery, c.1960.

Miniature Mermaid jug

Sunderland lustre

Jwg Dolphin

Sunderland lustre

1960s

Pot coffi Totem, siâp ‘Cylinder’, llathr ambr, 1963.

Pot coffi Totem

1970s

Plât Botanic Garden, Cactus Grandiflorus, o 1972. Cymerwyd y motiffau o lyfrau o’r 19eg-G; ‘The Moral of Flowers’ gan Rebecca Hey (gweler hefyd y plât ‘Daisy’) ac ‘Universal Herbal’ gan Thomas Green.

Plât Botanic Garden, Cactus Grandiflorus

The Moral of Flowers’ gan Rebecca Hey oedd ffynhonnell Daisy yng nghasgliad Botanic Garden.

The Moral of Flowers by Rebecca Hey

Plât ochr Oranges and Lemons, c.1979. Lansiwyd y dyluniad hwn yn 1975 Ysgrifennodd Euan Cooper-Willis, gŵr Susan: 'Gwnaeth Susan y paentiadau ar gyfer y patrwm egnïol hwn o fywyd ar wyliau yn Ibiza ... dewisodd y dyluniad hwn at ddefnydd domestig ar gyfer ei thŷ yn Ibiza ym 1991

Mae’r stamp cefn draig anarferol yn arwydd ei fod wedi cael ei addurno ym Mhenrhyndeudraeth, lle sefydlwyd ffatri Portmeirion fechan, yn addurno eitemau ail safon o Stoke-on-Trent.

Plât ochr Oranges and Lemons

1980s

Jwg Cable, o Gasgliad Treftadaeth Prydain, 1980au. Gwnaed hwn o fowld y daeth Susan o hyd iddo yn atig Kirkham's. Daeth o Alcock's Pottery, y cyntaf i gynhyrchu’r jwg i goffáu gosod y cebl telegraff trawsiwerydd yn 1866.

www.rmg.co.uk/collections/objects/rmgc-object-383667

Jwg Cable, o Gasgliad Treftadaeth Prydain

1990s

Jwg, Summer Garland, siâp ‘Moonstone’ o tsieina Portmeirion, a lansiwyd yn 1994. Philip White ddyfeisiodd y rysáit, a oedd yn wahanol i fathau eraill o tsieina gan nad oedd yn cynnwys esgyrn; a Susan ddyluniodd y siâp. Mae’r addurniad yn hybrid o ddyluniadau cynt, ac, yn eironig, mae’n cynnwys y motif ‘Christmas Rose’.

Jwg, Summer Garland

2000

Caribbean Platter, y 1990au hwyr. Un o chwe dyluniad ar gyfer platiau cyfres gyfyngedig, a ddaeth o ddarluniau tanddwr Susan. Dyma sampl, ac ar y cefn, yn llawysgrifen Susan, ‘Dance of the Damselfish. Dawns garwriaeth, dybiwn i. Roedden nhw’n ymddangos dros eu pennau a’u clustiau mewn cariad.’

Caribbean Platter

Dance of the Damsel Fish

Caribbean Platter