24 Medi 2024: 10:30am – 4:30pm
Bydd Ann Lewis PRCA yn mynd â chi gam wrth gam o’ch brasluniau neu ffotograffau o Ardd Plas Brondanw neu flodau o fewn yr ardd i doriad leino un lliw gorffenedig, gan ddefnyddio ei gwaith ei hun i egluro ac arddangos y broses o dorri leino.
Gallwch ddehongli’r pwnc yn ei ystyr ehangaf – mae golygfa o fewn Gardd Plas Brondanw, patrwm/dyluniad o flodau, delwedd realistig/botanegol, blodyn neu sawl blodyn mewn fâs yn rhai syniadau y gallech fod am eu hystyried.
Yn ystod hanner cyntaf y dydd, byddwch yn dysgu sut i 'leihau' eich braslun neu ffotograff yn ddelwedd un lliw syml, ond effeithiol, yna byddwch yn trosglwyddo'ch llun i'ch bloc leino cyn dysgu sut i ddefnyddio'ch offer torlunio leino yn ddiogel.
Treulir ail ran y diwrnod yn torri eich bloc, yna yn prawf-argraffu eich delwedd, cyn argraffu argraffiad bach o brintiau gwreiddiol.
Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.
Dewch â braslun 12cm x 12cm neu ffotograff i weithio ohono. Gwnewch yn siŵr bod eich gardd, eich blodyn neu'ch blodau yn cymryd y rhan fwyaf o'r gofod, ac os ydych chi'n defnyddio ffotograff, ei fod yn ddelwedd du a gwyn cyferbyniad uchel.