Rydym yn cynnal gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol yn Plas Brondanw er mwyn hybu’r celfyddydau yn yr ardal, ac i gynnig cyfleon i bobl o bob oed i gymdeithasu a mynegi eu hunain yn greadigol. Rydym yn cynnal rhaglen o sgyrsiau, gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.Cadwch lygad ar y tudalenau hyn neu ar ein cyfrifon ar y gwefannau cymdeithasol i gael gwybod beth sy’n dod i fynnu.
Am rhagor o fanylion, neu i gadw lle ar ddigwyddiad cysylltwch a ni ar 01766770590 neu post@susanwilliamsellis.org.Does dim rhaid cadw lle ar gyfer agoriadau arddangosfeydd, ond mae llefydd yn gyfyngedig ar weithdai a sgyrsiau, felly cofiwch gadw lle, hyd yn oed pan mae’r digwyddiad am ddim.
Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:
2023: Awyrol
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr
Dewch i ddathlu agoriad ein arddangosfa agored blynyddol ac i longyfarch enillydd ein gwobr artist sy’n dod i’r amlwg fydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf y flwyddyn hon. Bydd yr enillydd yn cael £500 tuag at gost creu arddangosfa i’w arddangos yn Plas Brondanw y mis Medi y flwyddyn ganlynol.