Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Curaduriaid

Mae gan y tîm curadurol dri maes cyfrifoldeb gwahanol – casgliadau, celf cyfoes a phrofiadau. Rydym yn croesawu eich awgrymiadau ac rydym bob amser yn agored i syniadau am beth ddylai fod yn digwydd yma. Sylwch fod rolau’r curadur profiadau a’r curadur casgliadau yn rhan amser, felly byddwch yn amyneddgar os na chewch ymateb ar unwaith.

Seran Dolma - Curadur Profiadau

Seran Dolma

Curadur Profiadau

Mae Seran wedi gweithio mewn cadwraeth, cynaladwyedd, garddio a iechyd meddwl, mae ganddi brofiad o rhedeg prosiectau a trefnu digwyddiadau, mae hi’n awdur ac yn fam i ddau o blant. Mae hi wedi ei geni a’i magu yn Llanfrothen, ac yn or-wyres i Clough ac Amabel Williams-Ellis. Mae hi’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r tîm curadurol sy’n gwarchod ac yn hyrwyddo treftadaeth y teulu, ac o gael gweithio yn y gymuned arbennig yma.

Cysylltwch â Seran
Phone: 01766 770590
Email: seran@susanwilliamsellis.org

Sian Elen - Curadur Celf Cyfoes

Sian Elen

Curadur Celf Cyfoes

Mae Sian yn artist; peintiwr a cherflunydd. O fewn ei ymarfer celfyddydol mae hi wedi gweithio gyda llawer o grwpiau gan gynnwys pobl ifanc ac oedolion ag anawsterau iechyd meddwl. Mae ganddi brofiad dysgu ac mae hi wedi trefnu digwyddiadau celf elusennol amrywiol. Mae Sian yn gweld bod ei gwaith ei hun yn cael ei gyfoethogi gan ei rôl guradurol, ac mae’r cyfnewid syniadau sy’n digwydd rhwng artist a churadur wrth baratoi ar gyfer sioe yn ysbrydoliaeth iddi. Mae hi’n mwynhau’r gwrthgyferbyniad rhwng amser gartref yn y stiwdio a'r agwedd fwy allblyg sydd ei hangen ym Mrondanw.

Mae hi’n fam ac yn nain a gafodd ei geni, ei magu ac sydd wedi byw rhan fwyaf o’i hoes yng nghwm Croesor. Mae hi'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r tîm creadigol artistig hwn.

Cysylltwch â Sian
Ffôn: 01766 770590
Ebost: sian@susanwilliamsellis.org

Rachel Hunt - Curadur Casgliadau

Rachel Hunt

Curadur Casgliadau

Bu Rachel Hunt yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 22 mlynedd, y pymtheg olaf fel rheolwr Tŷ a Chasgliadau yn Cotehele House yng Nghernyw. Daeth angerdd plentyndod at Bentref Portmeirion â hi yma ar gyfnod sabothol yn 2017, a phenderfynodd aros am yr hirdymor (gydag ychydig o help gan ei chyflogwyr). Mae’n rhannu ei hamser rhwng Pentref Portmeirion ac Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis ym Mhlas Brondanw.

Cysylltwch â Rachel
Ffôn: 07891 484332
Ebost: rachel.hunt@portmeirion-village.com