Pwrpas y clwb yw i rhoi cyfle i’r plant weithio gydag artistiaid profiadol fydd yn eu cyflwyno i wahanol ddeunyddiau a thechnegau.
Mae'r gweithdai hyn i gyd yn addas i blant dros 6 oed. Byddwn yn defnyddio inc, paent a sylweddau eraill sy'n medru difetha dillad, felly gwisgwch rhywbeth bler. Mae croeso i rhieni adael eu plant yn ein gofal yn ystod gweithdai.
Er mwyn tecwch i arweinyddion y gweithdai, ac er mwyn bod yn siwr bod digon o ddeunyddiau a lle i bob plentyn sy’n cymryd rhan, byddwn yn cyfyngu’r nifer o blant i 12 yn bob sesiwn. Nodwch os gwelwch yn dda bod rhaid i chi gadw lle ar gyfer y gweithdai yma cyn 6 o’r gloch y noson flaenorol. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad yn hyn o beth.
Rydym yn awr yn gweithredu polisi 'talu fel y gallwch chi' ar draws ein holl ddigwyddiadau. Ar gyfer y clwb celf ifanc gallwch ddewis talu £4.50, £5.50 neu £7.50 y plentyn. Mae'n bwysig i ni bod y clwb yn fforddiadwy i deuluoedd lleol, ond os allech chi dalu'r pris uwch, ystyriwch wneud hynny os gwelwch yn dda, gan fod y clwb yn costio llawer mwy i'w rhedeg nac y byddwn ni byth yn ei wneud yn ôl o werthu tocynnau.
6 Medi
Creu dysglau a potiau serameg gydag Alis Branwen - Mae Plas Brondanw wedi creu stiwdio crochenwaith cymunedol, a plant y clwb celf fydd y cyntaf i gael cyfle i'w ddefnyddio! Dewch i greu llestri gyda'r artist Alis Branwen. Bydd angen eu gadael yn y Plas i sychu, a byddwn yn eu crasu yn yr odyn newydd sbon, yn barod i chi eu peintio a'u gwydro yn y gweithdy canlynol yn mis Hydref.
4 Hydref
Peintio a gwydro eich dysglau a potiau - Cyfle i chi ychwanegu lliw i'ch darnau a'u gwydro, i greu darnau serameg gorffenedig wnaiff bara am flynyddoedd. Bydd cyfle hefyd i addurno platiau sydd wedi eu darparu gan grochendy Portmeirion, fydd yn blatiau gorffenedig defnyddiadwy ar ddiwedd y broses. Bydd angen i chi adael eich gwaith ar ôl y gweithdy i'w crasu eto er mwyn i'r gwydr weithio, a byddwn yn gadael i chi wybod pan mae eich darnau yn barod i'w casglu. Croeso i blant sydd heb fod i'r gweithdy blaenorol yn y sesiwn yma, byddwn yn darparu darnau iddyn nhw addurno.