Rydym yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ceisio arddangos amrywiaeth eang o waith o’r cysyniadol i waith crefft a dylunio, ac rydym yn gweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd. Rydym yn arddangos gweithiau ar bob math o themâu, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n ymateb yn benodol i’r lleoliad a’i hanes ac i syniadau Clough ac Amabel Williams-Ellis a’u plant am am gelf, dylunio, pensaernïaeth, cymdeithas, gwleidyddiaeth, cynllunio, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu unrhyw fater arall a archwilwyd ganddynt yn eu gyrfaoedd hir ac amrywiol.
Mae’r arddangosfa ‘Agored’ ac ‘Agored Ifanc’ yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, boed artist profiadol neu rhywun sy’n rhoi troed yn y dŵr am y tro cyntaf. Byddwn yn gosod thema ar gyfer y sioeau hyn fydd yn amrywio o un blwyddyn i’r llall, ond yn seiliedig ar ddarnau o’r archif, fydd yn cael eu arddangos gyferbyn a’r gweithiau cyfoes. O fewn y rhaglen Agored, rydym yn cynnig gwobr artist sy’n dod i’r amlwg a gwobr y bobl.
Am rhagor o wybodaeth am y gwobrau, a sut i gyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfeydd agored, dilynwch y ddolen i’r tudalen ‘ceisiadau’, isod.
Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:
2023: Awyrol
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr
Mae delweddau haniaethol yn datgelu gwrthdaro rhwng harddwch a dadfeiliad. Mae rhamantiaeth glasurol ac ôl-foderniaeth yn cyfuno â nodweddion sy’n gwrthdaro mewn lluniadu a phaentio. Mae delweddau'n datblygu trwy gyfres o weithredoedd greddfol, ac mae defnydd ailadroddus o ffilmiau tenau o inc, paent a deunyddiau lluniadu yn rhoi dyfnder i'r iaith bersonol hon. Yn aml, caiff haenau eu tynnu trwy sgrwbio neu grafu, gan ddatgelu palimpsest o farciau wedi pylu a phenderfyniadau blaenorol, gan amlygu'r mannau bregus a thyner yn y gwaith.
At ddiben yr arddangosfa hon ym Mhlas Brondanw bydd rhai gweithiau a fydd yn cael eu harddangos yn cael eu creu gan gyfeirio'n uniongyrchol at y tân a darodd y tŷ ym 1951. Bydd gweithiau eraill yn adlewyrchu thema adfeiliad a dadfeiliad lleoedd dychmygol. Trwy ddefnyddio ei phalet a’i phrosesau unigryw ei hun mae Philippa yn anelu at gynhyrchu corff o waith sy’n arddangos naratif cydlynol drwy’r arddangosfa.
Mae gwaith Thérèse yn ceisio dod â’r tu allan i mewn, gan greu teimlad o ryddid a chysylltiad llesol â byd natur. Mae ei hoffter o fotiffau a phatrymau ailadroddus yn fath o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, a byddai'r gwaith y mae'n ei gynhyrchu yn addas ar gyfer ffabrig neu ddylunio mewnol.
Mae hi'n peintio gan ddefnyddio dyfrlliw, inciau a phaent acrylic, ac yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau gwneud marciau i greu celf cyfrwng cymysg, gan gynnwys weithiau collage, argraffu, tecstilau, pwytho â llaw a pheiriant.