Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Cyfnodau Preswyl

Nid ydym mewn sefyllfa i gynnig preswylfeydd traddodiadol, gan nad oes llety ar gael ym Mhlas Brondanw. Fodd bynnag rydym yn croesawu artistiaid sydd eisiau treulio amser yma er mwyn cymryd ysbrydoliaeth o’r archif, y tŷ a’r casgliad. Mae lleoliadau o fewn yr adeilad a’r tiroedd ble gall artistiaid weithio os ydynt yn fodlon bod yn hyblyg. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cyfnod o ymchwil yma, neu os hoffech greu gwaith ym Mhlas Brondanw, cysylltwch â Seran Dolma, curadur profiadau.

Mae gennym ddau breswyliad yn digwydd yn ystod haf 2023

Siw Thomas a Christine Mills - Mehefin - Medi
Mae Siw Thomas yn seramegydd, a Christine Mills yn artist amlgyfrwng. Maent yn ymchwilio i fywyd a gwaith Amabel Williams-Ellis, a byddant yn meddiannu’r bragdy yn seler y prif dŷ am wahanol gyfnodau yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst, gan weithio i greu corff o waith ar gyfer arddangosfa ym mis Medi. Yn ystod y cyfnod hwn byddant hefyd yn cynnal gweithdai a gweithgareddau i blant a fydd yn llywio eu gwaith nhw ac yn ennyn diddordeb pobl gyda’r deunydd o’r archif. Bydd gweithdai’n cael eu hysbysebu drwy’r rhestr bostio, ar gyfryngau cymdeithasol ac o dan adran ‘digwyddiadau’ y wefan.Dyma’r tro gyntaf iddyn nhw gydweithio ar gorff o waith gyda’u gilydd.

Jeremy Stiff 7 – 20 Awst
Mae Jeremy yn gerflunydd sy'n gweithio mewn pren a charreg, yn aml yn gwneud darnau mawr i’w arddangos yn yr awyr agored, ac mae hefyd yn gwneud portreadau penddelw. Cynhaliwyd arddangosfa arbennig iawn o’i waith yma yn ngerddi Plas Brondanw yn 2013.Ei fwriad ar gyfer y cyfnod preswyl yma yw i wneud penddelw clai o Susan Williams-Ellis, gan weithio o ffotograffau o’r archif.

Menna Angharad 21 Awst – 3 Medi
Mae Menna Angharad yn beintiwr sy’n gwneud cynfasau o bethau byrhoedlog a di-nod, fel blodau, poteli plastig a ffabrigau crychlyd. Mae arddull ei phaentiad yn rhydd ac yn ddigymell, ac mae’n tueddu i beintio ei phynciau ar gefndir plaen neu haniaethol, gan ganiatáu gofod o’u cwmpas a rhoi teimlad tawel, myfyriol i’r gwaith. Cynhaliodd Plas Brondanw arddangosfa o’i gwaith ym mis Mai-Mehefin 2022, a oedd yn llwyddiant mawr. Bydd hi hefyd yn preswylio ym mis Awst, ac mae hi’n dymuno defnyddio ei hamser yma fel cyfle i arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a phynciau.

Siw Thomas

Christine Mills

Menna Angharad

Jeremy Stiff