Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Arddangosfeydd sydd wedi bod 2016-2019

Fflotila & Cychod Gwyllt, Marged Pendrell

Dydd Sul, 23 Hydref i ddydd Gwener, 16 Rhagfyr 2016

Gosodiad a ysgogwyd gan fro a phobl

portread o Mrs Spinks

Portread o Mrs Spinks, Eleanor Brooks

Dydd Sul, 9 Ebrill i ddydd Sul, 7 Mai 2017

Cyflwynwyd waith, Portread o Mrs Spinks gan Eleanor Brooks

Erydu – Erosion, Wil Rowlands

Erydu – Erosion, Wil Rowlands

Dydd Sul, 13 Mai i ddydd Sul, 24 Mehefin 2018

Gwêl Wil erydiad ym mhopeth o’n cwmpas, ond, wrth i bethau araf ddiflannu, mae rhywbeth arall yn dod yn eu lle. Mae Wil yn ymateb i’r newid hwnnw yn y tir, y bobl, y lle, yr iaith a threiglad amser. Arbrofi ag angen i ddod o hyd i’r annisgwyl sydd yn ganolog i ddull Wil o weithio, ffordd sydd yn aml yn arwain at hiwmor a dwyster ac emosiwn ymholgar.

Borrowed Light

Golau Benthyg: Annie Morgan Suganami

Dydd Sul, 29 Gorffennaf – Dydd Sul, 2 Medi 2018

Daw’r teitl o derm pensaernïol sy’n cyfeirio at oleuni yn dod i mewn i gornel dywyll y tu mewn i adeilad o ystafell neu ran gyfagos sydd â ffenestr. Bydd yr arlunydd yn archwilio’r trosiad hwn.

Ei hymateb i gyflwr y blaned, effeithiau cynhesu byd-eang, yn amgylcheddol a gwleidyddol yw gwaith Annie. Mae’r cefndir cyson hwn i’w bywyd yn dwysáu ei hangen i fyw mor llawn ac mor garedig â phosibl. Mae cerfluniau bach Annie, ei gwaith mewn papur bregus a’i darnau am y tirlun yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwr cyfredol, tywyll dynol ryw. ‘Mae arnom fwy o angen harddwch nawr nag erioed,’

Canlyniad gwaith Annie fel arlunydd preswyl yn Oriel Brondanw yn 2018 yw rhan o’r arddangosfa hon.

Connexion 2017

Connexion 2017

Dydd Sadwrn, 9 Medi 2017

Celf o Gês Celf ryngwladol a gweddarllediad byw.

Arddangosfa POP-UP.

Eryri yn Oes Victoria

'Henry Clarence Whaite - Eryri yn Oes Victoria' - Peter Lord

Dydd Sul 14 Ebrill i Dydd Sul 26 Mai 2019

Mae Oriel Brondanw wrth ei bodd yn cyflwyno cyfres arall o Sioeau Bach y Llyfrgell o dan guradaeth Peter Lord. Bydd Peter yn agor pob sioe â sgwrs; doedd dim sêt ar ôl i'r sgyrsiau hyn yn 2018. Hoffem gydnabod cymorth David Mortimer-Jones wrth baratoi’r arddangosfa hon.

1 Henry Clarence Whaite: Eryri yn Oes Victoria. (14/4 – 26/5/19). Hoffem gydnabod cymorth David Mortimer-Jones wrth baratoi’r arddangosfa hon

2 Merched Trwy Lygaid Dynion – portreadau 1736-1955. (2/6 – 14/7/19)

3 John Cambrian Rowland ac Evan Williams: Arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon. (21/7 – 1/9/19)

Cadwch sedd ar gyfer sgwrs Peter Lord ar ddiwrnod agor yr arddangosfa:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Golau Benthyg: Annie Morgan Suganami

Artist Preswyl: Annie Morgan Suganami

Dydd Llun, 21 Mai hyd ddydd Sul, 1 Gorffennaf 2018

Yn ystod y cyfnod preswyl hwn mae Annie yn gobeithio rhoi rhyddid iddi ei hun i ddilyn ffyrdd gwahanol o weithio, ac o ymateb trwy ddeunyddiau nad yw’n eu defnyddio fel arfer. Ond bydd ei pheintiadau yn bresennol o hyd.

Gweithio yn yr hen lofft
Bydd Annie yn gweithio yn bennaf hefo deunyddiau y mae wedi bod eisiau eu harchwilio ymhellach dros y blynyddoedd, ond rhywsut mae peintio wedi ei rhwystro rhag gwneud hynny. Bydd yr wythnosau yma yn Oriel Brondanw yn rhoi cyfle iddi roi llai o bwyslais ar ei phaent olew a’i gwaith ffigurol ac yn gadael iddi ganolbwyntio mwy ar ddarnau 3D a darlunio. Ei nod yw canolbwyntio ar arbrofi, gwneud gwaith ar y pryd a chwarae, a fydd yn cynnwys clai sy’n sychu heb wres, brigau, canghennau a phapur.

Bydd y cyfnod preswyl hwn, yn hwyrach eleni, yn rhan o arddangosfa Annie Morgan Suganami yn Oriel Brondanw dan y teitl ‘Golau Benthyg’.

Bydd Annie yn ceisio bod ar gael i ymwelwyr yn ystod ei chyfnod preswyl i drafod ei gwaith, ond ni ellir gwarantu hynny’n gyson. Os byddwch am gael siarad â hi yn benodol rydym yn argymell trefnu apwyntiad trwy gysylltu â post@susanwilliamsellis.org neu 01766 770590

Defnydd Delwedd

'Defnydd Delwedd' - Josie Russell

Dydd Sul 9 Mehefin i Dydd Sul 21 Gorffennaf 2019

Mae Josie am ddod â'i mewnwelediad personol o dirwedd i Oriel Brondanw. Bydd ei harddangosfa o waith newydd yn fynegiant o'n tir a'n hamgylchedd trwy decstiliau. Mor gyffrous ag erioed, ac ni fu erioed mor boblogaidd. Peidiwch â'i cholli.

Am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Gasgliad Peter Lord

Sioeau Bach y Llyfrgell: darluniau hanesyddol o Gasgliad Peter Lord: 3 Gwaith

22/7/18- 9/9/18

Yn ystod yr haf, bydd Oriel Brondanw yn cyflwyno tair arddangosfa thema fechan o baentiadau hanesyddol Cymreig o Gasgliad Peter Lord: 'Glo' rhwng 15 Ebrill a 3 Mehefin 2018, 'Hugh Hughes' o 10 Mehefin i 15 Gorffennaf 2018, 'Gwaith' o 22 Gorffennaf i 9 Medi 2018. I agor pob un o'r arddangosfeydd, bydd Peter yn rhoi cyflwyniad am y paentiadau.

Arddangosfa 3: Gwaith
Dydd Sul, 22 Gorffennaf – Dydd Sul, 9 Medi 2018

Paneli:
Edward Owen, Penrhos, Hunanbortread, 1732
Anhysbys, Yr Hetwraig, c.1820
Anhysbys, John Jones, Saer Coed Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar, c.1850
Richard Sebastian Bond, The Basket Maker’s Cottage, 1845-65
John Cyrlas Williams, Stiwdio Colarossi, Paris, 1926-7
John Roberts, Llanystumdwy, Hugh Hunter Hughes, Pwllheli, c.1845 – Meddyg
William Roos, Ned Parri, 1873 – Heliwr
Mervyn Levy, L.S Lowry yn darlunio Traphont Stockport, 1975

Isl:
John Cambrian Rowland, Yr Amaethwr, 1842
Anhysbys, Capten John Evans, Milford House, Aberaeron, c.1840 – Capten Llong
Shani Rhys James, Y Menyg Melyn, 2015
John Roberts, The Marquis of Anglesey, 1832

Silff:
Christmas Evans (cerameg Swydd Stafford, ar ôl Hugh Hughes), c.1845 – Pregethwr
Bydd y digwyddiad agoriadol am 14.00 dydd Sul, 22Gorffennaf 2018 yn cynnwys sgwrs gan Peter Lord.

Celwydd Oll

Lansiad llwyddiannus yn Oriel Brondanw: 'Celwydd Oll' gan Sian Northey.

Dydd Mercher 12 Medi 2018

Cynhaliwyd lansiad Celwydd Oll, cyfrol o straeon byrion gan Sian Northey yn Oriel Brondanw nos Fercher, 12ed Medi 2018. Gwasg y Bwthyn ydi’r cyhoeddwyr ac £8 ydi’r pris. Holwyd Sian Northey gan Dylan Williams ac fe berfformiwyd caneuon gan Manon Steffan Ros. Dymuna Oriel Brondanw yn dda i’r gyfrol ac i’r awdur.

Tir a Môr

'Tir a Môr' - Catrin Williams

Dydd Sul 21 Ebrill i Dydd Sul 2 Mehefin

Gall rhywun adnabod celf Catrin ar unwaith. Nodwedd ei phaentiadau yw eu bod wedi eu gwreiddio yn y profiad o fyw yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr arddangosfa hon yn dangos thema newydd am fywyd y môr, thema a ysbrydolwyd gan waith Susan Williams-Ellis.

Gall rhywun adnabod celf Catrin ar unwaith. Nodwedd ei phaentiadau yw eu bod wedi eu gwreiddio yn y profiad o fyw yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr arddangosfa hon yn dangos thema newydd am fywyd y môr, thema a ysbrydolwyd gan waith Susan Williams-Ellis.

Delwedd: ‘Plas Brondanw’ 66 x 41.4cm Framed.
Mae’r gwaith a arddangosir gan Catrin ar werth yn ystod yr arddangosfa hon.

Am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Landscapes: 1954-2014

Eleanor Brooks ‘Tirluniau: 1954-2014'

25/03/2018 - 06/05/2018

Cyflwynwyd paentiadau o dirweddau Eleanor Brooks a golwg arall ar stafell Mrs Spinks

Artist Preswyl: Sian Hughes

Artist Preswyl: Sian Hughes

8/7/19 - 18/8/19

Yn ystod Gorffennaf ac Awst eleni bydd Sian Hughes yn defnyddio Oriel Brondanw fel canolfan ar gyfer gwaith maes ei phroject Darnau mewn Amser.

Gweithio â chlai porslen mae Sian, a bydd yn ei rowlio’n denau fel bapur a’i wasgu ar y dirwedd. Ei gobaith yw defnyddio’r broses hon i gael argraffiadau o blanhigion, daeareg, hen olion diwydiannol ac elfennau o’r Traeth Mawr. Ar ôl eu tanio a’u goleuo o’r cefn gwelir yn y darnau brau hyn, haeanu o hanes yn ymddangos.

Cewch gyfle i gyfarfod Sian ac i ddeall mwy am y cynllun sydd ganddi ar waith. Cadwch olwg am ddyddiadau yn nes at yr amser i weld pryd y bydd ar gael.

Os byddwch am gael siarad â hi yn benodol rydym yn argymell trefnu apwyntiad trwy gysylltu â post@susanwilliamsellis.org neu 01766 770 590.

Ariannwyd prosiect Sian gan grant ‘Ymchwil a Datblygu’ a ddyfarnwyd gan y cyrff canlynol:

Ymchwil a Datblygu

Croesi'r Traeth

'Croesi'r Traeth' - Mapiau yn y Llyfrgell

Dydd Sul 8 Medi i Dydd Sul 20 Hydref 2019

Detholiad o hen fapiau am y rhan hwn o’r byd. Agorir yr arddangosfa hon gyda sgwrs gan Mike Parker, awdur Map Addict, Mapping The Roads, On the Red Hill a mwy. Mapiau: yn cyfuno’r ymarferol â’r addurnol.

Agorir yr arddangosfa hon gyda sgwrs gan Mike Parker, awdur Map Addict, Mapping The Roads, On the Red Hill a mwy.

Bu aberoedd y Traeth Mawr a’r Traeth Bach, y naill ochr i Blas Brondanw, yn nodweddion amlwg ar fapiau ers erioed, ac yn rhwystrau sylweddol i deithio. Er bod map stribed Ogilby yn 1675 yn dangos llwybr ar draws y Traeth, neu’r ‘Sands’ fel y dywed ef, fe wyddai’r call mai llogi cwch neu wasanaeth tywysydd oedd ddoethaf. Mae’r cof am fawredd aber tair milltir y Traeth Mawr – y traeth y safodd Plas Brondanw ar ei lan am bron 250 o flynyddoedd – dal yn cwhwfan yn y cof, ac mae’r hen fapiau hyn yn yr arddang­osfa hon yn ein hatgoffa o’r newid enfawr a ddigwyddod yn sgil Madocks a’r Cob a orffenwyd yn 1811.

Mae pob sedd wedi ei chadw erbyn hyn.
Nodwch mai am 1.30yp y bydd sgwrs Mike Parker ac nid am 2.00yp yn ôl ein harfer.
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

bird/land

bird/land, Jeremy Moore

Dydd Mercher, 26 Gorffennaf i ddydd Llun, 28 Awst 2017

Adar a thirwedd trwy'r lens.

Teithwyr Chwilfrydig

Teithwyr Chwilfrydig

Dydd Sul, 21 Mai i ddydd Sul, 25 2017

Ymateb tri artist ar ddeg cyfoes i deithiau Thomas Pennant yn y 18ed ganrif.

Tirlun, Symud, Celf.

darluniau hanesyddol o Gasgliad Peter Lord:

Sioeau Bach y Llyfrgell: darluniau hanesyddol o Gasgliad Peter Lord: 2 Hugh Hughes

10/6/18 - 15/7/18

Yn ystod yr haf, bydd Oriel Brondanw yn cyflwyno tair arddangosfa thema fechan o baentiadau hanesyddol Cymreig o Gasgliad Peter Lord: 'Glo' rhwng 15 Ebrill a 3 Mehefin 2018, 'Hugh Hughes' o 10 Mehefin i 15 Gorffennaf 2018, 'Gwaith' o 22 Gorffennaf i 9 Medi 2018. I agor pob un o'r arddangosfeydd, bydd Peter yn rhoi cyflwyniad am y paentiadau.

Arddangosfa yn y llyfrgell 2: Hugh Hughes
Dydd Sul, 10 Mehefin – Dydd Sul , 15 Gorffennaf 2018

Paneli:
Hugh Hughes, Anne Richardson, Caernarfon, c.1812–20
Hugh Hughes, Mr a Mrs Lawford, Y Mymbls, c.1821–3
Hugh Hughes, Thomas Charles Hughes in his 12th year, 1844–5
Hugh Hughes, A Mother and Her Two Daughters, 1848

Isl:
Hugh Hughes, View on the Mawddach, c.1847
Hugh Hughes, Jane Davies aged 10 months, 1825

Silffoedd:
Christmas Evans (cerameg Swydd Stafford, ar ôl Hugh Hughes), c.1845

Llyfrau

Cofiant Christmas Evans, gydag engrafiad o waith Hugh Hughes, 1839
Yr Hynafion Cymreig, gydag engrafiadau o waith Hugh Hughes, 1823
John Davies, Allwedd Dduwinyddiaeth, gydag engrafiad o waith Hugh Hughes, 1823

Bydd y digwyddiad agoriadol am 14.00 dydd Sul, 10 Mehefin 2018 yn cynnwys sgwrs gan Peter Lord.

Helfa Gelf yn Oriel Brondanw

Helfa Gelf yn Oriel Brondanw 2017

Dydd Mercher, 6 Medi i ddydd Sul, 24 Medi 2017

Tro cyntaf i Helfa Gelf gydweithio gyda Oriel Brondanw.

Tri ar hugain o arlunwyr yn arddangos 52 darn o gelf mewn cyfryngau amrywiol.

Eclectig

Susan Williams-Ellis, 'Eclectig'

Dydd Sul, 14 Hydref hyd ddydd Sul 4 Tachwedd 2018

Gan mlynedd ar ôl ei geni, mae Oriel Brondanw yn edrych ar y cyfnodau gwahanol ym mywyd Susan Williams-Ellis mewn celf, darlunio a masnach.

Mae Susan Williams-Ellis yn fwyaf adnabyddus am ei Chrochenwaith Portmeirion, ond mae mwy i’w bywyd artistig na’r gwaith seramig blaengar. Ar adegau gwahanol yn ei gyrfa mynegodd Susan ei chrefft mewn darluniau, peintiadau, dillad, ffabrig a dylunio dodrefn, a hyd yn oed trwy gyfrwng masgiau gyda chomisiwn a heb gomisiwn. Gadawodd nifer fawr o frasluniau ac eitemau amrywiol a ysbrydolodd ei gwaith, y cyfan ohonynt yn bwrw golau a chysgod dros ei bywyd fel plentyn cyntaf i rieni amlwg a thiriog, ac fel unigolyn yn ymdrechu i ddod o hyd i’w llais ei hun.

Merched Drwy Lygaid Dynion

'Merched Drwy Lygaid Dynion - portreadau 1736-1955' - Peter Lord

Dydd Sul 2 Mehefin i Dydd Sul 14 Gorffennaf 2019

Mae Oriel Brondanw wrth ei bodd yn cyflwyno cyfres arall o Sioeau Bach y Llyfrgell o dan guradaeth Peter Lord. Bydd Peter yn agor pob sioe â sgwrs; doedd dim sêt ar ôl i'r sgyrsiau hyn yn 2018.

Themâu’r sioeau-bach eleni yw:

1 Henry Clarence Whaite: Eryri yn Oes Victoria. (14/4 – 26/5/19)

2 Merched Trwy Lygaid Dynion – portreadau 1736-1955. (2/6 – 14/7/19)

3 John Cambrian Rowland ac Evan Williams: Arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon. (21/7 – 1/9/19)

Cadwch sedd ar gyfer sgwrs Peter Lord ar ddiwrnod agor yr arddangosfa:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Coal

Sioeau Bach y Llyfrgell: darluniau hanesyddol o Gasgliad Peter Lord: 1 Glo

15/4/18 - 3/6/18

Yn ystod yr haf, bydd Oriel Brondanw yn cyflwyno tair arddangosfa thema fechan o baentiadau hanesyddol Cymreig o Gasgliad Peter Lord: 'Glo' rhwng 15 Ebrill a 3 Mehefin 2018, 'Hugh Hughes' o 10 Mehefin i 15 Gorffennaf 2018, 'Gwaith' o 22 Gorffennaf i 9 Medi 2018. I agor pob un o'r arddangosfeydd, bydd Peter yn rhoi cyflwyniad am y paentiadau.

1: Glo
Dydd Sul 15 Ebrill – Dydd Sul, 3 Mehefin 2018

Paneli:
Evan Walters, Courting, 1927
Archie Rhys Griffiths, Miners Returning from Work, 1927
Maurice Sochachewsky, Their Burden, 1937
Vincent Evans, The Farrier’s Shop, c.1936 a The Accident, c.1940

Isl:
Archie Rhys Griffiths, Ar y Domen Lo, c.1930
Archie Rhys Griffiths, Egwyl y Glöwr, c.1929–32

Silffoedd:
Archie Rhys Griffiths, Miners Descending, 1925
Archie Rhys Griffiths, Ar y Domen Lo, c.1930
Archie Rhys Griffiths, Egwyl y Glöwr, c.1932

Llyfrau:
Idris Davies, The Angry Summer, 1943 (argraffiad cyntaf)
Gwyn Jones, Rhondda Roundabout, 1934 (argraffiad cyntaf)
Lewis Jones, Cwmardy, 1937, a We Live, 1937, 1939, etc

Bydd y digwyddiad agoriadol am 14.00 dydd Sul, 15 Ebrill 2018 yn cynnwys sgwrs gan Peter Lord.

Oriel Brondanw Agored/Open 2019

Oriel Brondanw Agored/Open 2019

15/9/19 - 3/11/19

Eleni, yn 2019, byddwn yn lansio arddangosfa Agored/Open gyntaf Oriel Brondanw. Caiff artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw gyfrwng, wedi trefn o ddethol, y cyfle i arddangos eu gwaith yn y lleoliad unigryw hwn.

Am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Tirweddau Bregus

‘Tirweddau Bregus’, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig: Dathlu gwaith 90 mlynedd

Dydd Sul, 1 Gorffennaf hyd ddydd Sul, 22 Gorffennaf 2018

Arddangosfa yn cynnwys peintiadau, ffotograffau a darnau eraill o gelf, a'r cyfan yn awgrymu pa mor wahanol fyddai ein gwlad oni bai am ymdrechion y corff hwn.

Roedd Clough Williams-Ellis, ceidwad rhyfeddol Plas Brondanw, yn un o sylfaenwyr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ac am flynyddoedd lawer roedd yn un o’r aelodau mwyaf dylanwadol. Roedd yn addas felly i Oriel Brondanw roi lle ar ei hamserlen i helpu’r Ymgyrch i ddathlu 90 mlynedd o waith. Mae’r arddangosfa’n cynnwys peintiadau, ffotograffau a darnau eraill o gelf, a’r cyfan yn awgrymu pa mor wahanol fyddai ein gwlad oni bai am ymdrechion y corff hwn.

Helfa Gelf 2018

Helfa Gelf yn Oriel Brondanw 2018

Dydd Sul, 9 Medi – Dydd Sul, 7 Hydref 2018

Caiff arlunwyr o Ogledd Cymru y cyfle i arddangos eu gwaith yn Oriel Brondanw. Cysylltwch â’ch cynrychiolydd Helfa Gelf i weld sut y gallwch gymryd rhan.

Er gwaetha’r tywydd erchyll, roedd y tro cyntaf i’r Helfa Gelf gydweithio gydag Oriel Brondanw yn 2017 yn llwyddiant eithriadol. Bu tri ar hugain o arlunwyr yn arddangos 52 darn o gelf mewn cyfryngau amrywiol yn y lle hynod hwn.

Eleni mae yma 38 o artistiaid yn arddangos 89 o ddarnau cyffrous. Erbyn hyn mae gwaith artistiaid Helfa Gelf i’w weld yn Llyfrgell y Plas yn ogystal â gweddill yr Oriel. Llongyfarchiadau i bawb.

Eclectig

Susan Williams-Ellis, 'Eclectig'

Dydd Sul, 10 Mawrth i Dydd Sul, 14 Ebrill 2019

Golwg ar y cyfnodau gwahanol ym mywyd Susan Williams-Ellis mewn celf, darlunio a masnach.

Mae Susan Williams-Ellis yn fwyaf adnabyddus am ei Chrochenwaith Portmeirion, ond mae mwy i’w bywyd artistig na’r gwaith seramig blaengar. Ar adegau gwahanol yn ei gyrfa mynegodd Susan ei chrefft mewn darluniau, peintiadau, dillad, ffabrig a dylunio dodrefn, a hyd yn oed trwy gyfrwng masgiau gyda chomisiwn a heb gomisiwn. Gadawodd nifer fawr o frasluniau ac eitemau amrywiol a ysbrydolodd ei gwaith, y cyfan ohonynt yn bwrw golau a chysgod dros ei bywyd fel plentyn cyntaf i rieni amlwg a thiriog, ac fel unigolyn yn ymdrechu i ddod o hyd i’w llais ei hun.

Nodwch:
Arddangosfa y Llyfrgell, 10 Mawrth hyd 7 Ebrill 2019.
Arddangosfa Gweddill y Tŷ, 10 Mawrth hyd 14 Ebrill 2019.

Cadwch sedd ar gyfer yr agoriad:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon

'John Cambrian Rowland ac Evan Williams - arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon' - Peter Lord

Dydd Sul 21 Gorffennaf i Dydd Sul 1 Medi 2019

Mae Oriel Brondanw wrth ei bodd yn cyflwyno cyfres arall o Sioeau Bach y Llyfrgell o dan guradaeth Peter Lord. Bydd Peter yn agor pob sioe â sgwrs; doedd dim sêt ar ôl i'r sgyrsiau hyn yn 2018.

Themâu’r sioeau-bach eleni yw:

1 Henry Clarence Whaite: Eryri yn Oes Victoria. (14/4 – 26/5/19)

2 Merched Trwy Lygaid Dynion – portreadau 1736-1955. (2/6 – 14/7/19)

3 John Cambrian Rowland ac Evan Williams: Arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon. (21/7 – 1/9/19)

Cadwch sedd ar gyfer sgwrs Peter Lord ar ddiwrnod agor yr arddangosfa:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590

Byd Mewn Bocs

'Byd Mewn Bocs' - Chris Clunn

Dydd Sul 28 Gorffennaf i Dydd Sul 8 Medi 2019

Er bod cartref y ffotograffydd Chris Clunn ym Gwynedd mae ei olygon yn rhyngwladol, ac fe fydd themâu ei arddangosfa yn adlewyrchu hyn. I'r rhai nad ydynt yn ymwybodol o waith Chris, bydd y trosolwg hwn o'i weledigaeth bwerus, idiosyncratig a chraff o bobl, yn bennaf, yn gofiadwy.

Am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590