Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Ceisiadau

Gwahoddiadau i Arddangos

Rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau a syniadau ar gyfer arddangosfeydd yn Plas Brondanw. Mae gennym ddiddordeb mewn cynnal sioeau unigol, sioeau grŵp a chydweithrediadau gan artistiaid, crefftwyr a dylunwyr. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dulliau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys mwy nag un ffurf gelfyddydol.

Rydym yn ceisio arddangos amrywiaeth eang o waith o’r cysyniadol i waith crefft a dylunio, ac rydym yn gweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd. Rydym yn arddangos gweithiau ar bob math o themâu, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n ymateb yn benodol i’r lleoliad a’i hanes, ac i syniadau Clough ac Amabel Williams-Ellis a’u plant. Gallai hyn gynnwys syniadau yn ymwneud a chelf, dylunio, pensaernïaeth, cymdeithas, gwleidyddiaeth, cynllunio, gwyddoniaeth, llenyddiaeth, cadwraeth, neu unrhyw fater arall a archwilwyd ganddynt yn eu gyrfaoedd hir ac amrywiol.

Y syniad yw i annog yr artistiaid rydym yn gweithio â nhw i ymgymryd â’r gwaith a wnaethpwyd gan deulu Brondanw, a’i herio neu ei ddatblygu ymhellach, ei ddiweddaru neu ei wrthod yn gyfangwbl, ond i ystyried treftadaeth y lle yn y foment bresennol ac ystyried a yw’n berthnasol i’r dyfodol? Rydym yn chwilio am ymatebion gonest, treiddgar a gwreiddiol, nid i fawrygu yn ddigwestiwn.

Gweler y tudalennau ‘Hanes a Chasgliadau’ i ddysgu mwy am y teulu Williams-Ellis a’u gwaith. Mae croeso i chi holi ymhellach am unrhyw rhan o hyn sydd o ddiddordeb i chi, mi wnaiff ein curadur casgliadau ei gorau i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

Wedi dweud hyn oll, rydym hefyd yn agored i syniadau artistiaid sydd a wnelo nhw ddim a hanes y safle, ond fod y gwaith yn wrediddiol ac yn ystyrlon.

Y peth arall yr ydym yn awyddus i artistiaid ei ystyried yw a allent gynnig gweithdai, sgyrsiau neu ddigwyddiadau eraill fel rhan o’u hamser ym Mrondanw. Rydyn ni'n rhoi llawer o bwyslais ar ymgysylltu â'r gymuned ac rydyn ni eisiau cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i brofi'r broses greadigol drostynt eu hunain. Gweler ein tudalennau ‘digwyddiadau’ am ragor o wybodaeth am hyn.

Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:

2023: Awyrol
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr

Mae’r arddangosfa Agored yn cael ei gynnal pob blwyddyn rhwng mis Mawrth a mis Mai.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd a rhywbeth yr hoffen nhw ei arddangos, os ydynt yn arlunydd profiadol neu yn cymryd eu camau cyntaf mewn celf. Bydd thema gwahanol i’r arddangosfa agored pob blwyddyn, a byddwn yn curadu rhannau o’r casgliad parhaol i gydfynd a’r thema ac i’w arddangos gyferbyn a’r gweithiau cyfoes. Gweler y ddogfen isod am rhagor o wybodaeth, dyddiadau a ffurflen gais.

Am y tro cyntaf yn 2023, byddwn yn cynnal sioe Agored Ifanc, i bobl o dan 18. Byddwn yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau yn arwain i fynnu at y sioe hon i annog pobl ifanc yr ardal i baratoi gwaith ar gyfer yr arddangosfa. Cadwch lygad ar ein safle gwe, neu ar ein cyfryngau cymdeithasol am rhagor o wybodaeth.


O ran dyddiadau arddangos, mae pum prif arddangosfa pob blwyddyn.

  • Mawrth – Mai – Arddangosfa Agored
  • Mai – Gorffennaf – Arddangosfa unigol neu grŵp artistiaid profiadol
  • Gorffennaf – Medi – Arddangosfa unigol neu grŵp artistiaid profiadol
  • Medi – Tachwedd – Arddangosfa unigol neu grŵp artistiaid newydd (enillydd cystadleuaeth arlunydd sy’n dod i’r brig y flwyddyn blaenorol)
  • Tachwedd – Mawrth – Arddangosfa Agored Ifanc

Os oes gyda chi syniad am arddangosfa, cysylltwch a’n curadur celf cyfoes, Sian Elen ar 01766 770590 neu ebostiwch sian@susanwilliamsellis.org, fe fydd hi’n falch iawn o glywed gennych chi.