Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Sgwrs Artist gyda Jennifer Leach

'Yr Afon - celf a bywyd'

20 Mawrth 2024: 7pm

Artist Gweledol, bardd, awdur, storïwr, gwneuthurwr ffilmiau, gwneuthurwr newidiadau a Chyfarwyddwr Outrider Anthems yw Jennifer Leach.

Gweledigaeth Outrider Anthems yw ymgysylltu’n emosiynol â chymunedau trwy stori a chreadigrwydd trwy drafodaethau am ein perthynas â’r Ddaear, y Bydysawd, cymdeithas a ni’n hunain. Rydym yn awyddus i ddyfeisio straeon newydd sy'n creu her a chydbwysedd.

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres breswyl yr Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths. Mae'r sgyrsiau hyn am ddim i'w mynychu, ac nid oes angen archebu lle. Saesneg yw iaith y digwyddiad hwn.