Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Galwad Agored am Feirdd

Peintio Gyda Geiriau

Mae Plas Brondanw, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, yn chwilio am ddau/dwy fardd i ymateb i weithiau yn yr arddangosfa ‘Agored’ fydd yn cael ei gynnal rhwng y 9fed o Fawrth a’r 5ed o Fai 2024. Mae dros gant o artistiaid yn cael eu cynrychioli yn y sioe, sydd ar y thema ‘Trawsffurfiad’. Mae rhai ohonnynt yn arlunyddion adnabyddus, ac eraill yn gwbl newydd. Rydym yn chwilio am un bardd sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg, a’r llall yn yr iaith Saesneg, a byddwn yn gofyn i’r beirdd gyfansoddi o leiaf chwech o gerddi yr un, yn ymateb i weithiau yn yr arddangosfa. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gynnal gweithdy i 8 o bobl ar ysgrifennu barddoniaeth ecffrastig (wedi ei ysbrydoli gan waith celf), a byddwn yn cynnal noson gyda darlleniadau o’r cerddi, ble bydd yr artistiaid a'r cyhoedd yn cael cyfle i glywed y gwaith. Rydym yn cynnig £400 yr un i’r beirdd am y gwaith cyfansoddi, cynnal gweithdy a'r darlleniad barddoniaeth. Bydd yr holl weithgareddau yn digwydd yn ystod cyfnod yr arddangosfa, ond hoffwn i chi ganolbwyntio ar wneud y gwaith ysgrifennu yn ystod tair wythnos cynta’r arddangosfa, fel y gallwn arddangos y cerddi ochr yn ochr a’r gwaith celf.

I gael eich ystyried ar gyfer y cynllun, gyrrwch baragraff yn cyflwyno eich hunain a’ch gwaith, ac yn amlinellu pam yr hoffech gymryd rhan, ynghyd ac un neu ddau o’ch cerddi diweddar i seran@susanwilliamsellis.org erbyn yr 28ain o Chwefror 2024.