Dyddiad cau i gyflwyno gwaith : 24/01/24
Thema ac ysbrydoliaeth arddangosfa Agored blwyddyn yma yw ‘Trawsffurfiad’, bydd hyn yn cyd-fynd ac arddangosfa o waith Susan Williams-Ellis yn y parlwr ar ben y grisiau. Mae croeso i chi ddehongli’r thema mewn unrhyw ffordd sy’n sbarduno eich dychymyg.
Rydym yn chwilio am waith gan artistiaid newydd a rhai mwy profiadol, ac rydym yn awyddus i arddangos amrywiaeth eang o wahanol ddulliau a syniadau. Mae’r arddangosfa agored yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i Plas Brondanw, ac rydym yn gyffroes iawn i gyhoeddi bod y ddwy wobr a gynnigwyd am y tro cyntaf yn 2023 yn parhau. Y gwobrau ydi:
Gwobr y bobl - £500
Mae gwobr y bobl yn mynd i’r artist sy’n ennill y mwyaf o bleidleisiau gan y cyhoedd yn ystod cyfnod yr arddangosfa
Gwobr Artist sy’n dod ir amlwg
Bydd enillydd yr wobr hon yn cael arddangosfa o’u gwaith yn Plas Brondanw yn mis Medi yn y flwyddyn dilynol, 2025 a cyllid hyd at £500 tuag at paratoi gwaith i’w arddangos ee. Fframio, deunyddiau, danfon y gwaith ayyb.
Diffinir artist yn dod ir amlwg fel artist heb fwy na 5 mlynedd o brofiad o arddangos gwaith mewn orielau. Mae’n agored i artistiaid o bob oedran.