23 Medi 2023: 2pm - 3pm
Dewch i fwynhau te prynhawn yn Plas Brondanw yng nghwmni dwy artist sydd wedi bod yn creu gwaith yn y tŷ a’r gerddi dros yr haf. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn trafod y cyfnod preswyl a’r gwaith sydd wedi dod allan ohono gyda Sian Elen a Seran Dolma, a bydd te a chacen yn cael ei weini ar rhai o’r llestri mae Siw Thomas wedi eu creu. Bydd cyfle wedyn i edrych ar yr arddangosfa
Awgrymir rhodd o £10 tuag at y digwyddiad, bydd yr elw yn mynd tuag at weithdai plant Plas Brondanw