3 Gorffennaf 2023 10am - 1pm
Mae’r Techneg Alexander yn cynnig cyfle i “ddad-ddysgu”. Mae’n ffordd cynnil o rhyddhau’r corff a’r meddwl o hen arferion ac agweddau a gwella eich lles cyfan. Mae’n eich dysgu sut i rheoli ac atal tensiwn, straen a phoen. Mae'r dechneg yn eich helpu i ailddarganfod ffordd fwy naturiol o symud, yn gwella ymwybyddiaeth ac yn annog teimlad newydd o egni a rhyddid. Fe'i defnyddir yn aml fel rhan o gyrsiau hyfforddiant yn y celfyddydau perfformio, ond mae'n fuddiol iawn i bawb.
Mae gan Pippa Bondy MSTAT, fwy na tri deg mlynedd o brofiad fel tiwtor Techneg Alexander. Am rhagor o wybodaeth - pipbondy.com
Mae’r gweithdy yma am ddim, diolch i haelioni Pippa, ond croesewir rhoddion i’r elusen fel pob amser.