Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Gweithdai Oedolion

gydag Artistiaid Preswyl Christine Mills a Siw Hughes

7fed Gorffennaf 2023

Darlunio yn yr awyr agored a gweithdy clai ffigyrol – dewch i ymuno gyda’n artistiaid preswyl Christine Mills a Siw Thomas am fore a gyda’r nos o drafod a gwneud ym Mhlas Brondanw. Darperir deunyddiau, gwisgwch ar gyfer y tywydd.

Darlunio Golosg gyda Christine Mills

7fed Gorffennaf 2023: 10am-1pm

Bydd y gweithdy hwn yn yr awyr agored os yw'r tywydd yn sych, ac yn y tŷ fel arall. Bydd yno amser am egwyl i gael paned, a chyfle i drafod y gwaith.

Nid oes angen profiad o waith celf er mwyn cymryd rhan. Darperir deunyddiau, ond mae croeso i chi ddod a phapur a golosg o soes gyda chi rhai.

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £10 tuag at gost cynnal y gweithdy hwn, ond os nad yw hyn yn fforddiadwy i chi, lawrlwythwch y ffurflen hepgor taliad a'i hanfon at seran@susanwilliamsellis.org byddwn yn ymdrin â hyn yn gwbl gyfrinachol.

Modelu o Fywyd mewn Clai gyda Siw Thomas

7fed Gorffennaf 2023: 6-8pm

Cyfle i arbrofi gyda darlunio’r ffurf ddynol mewn 3D, gan weithio o fodel byw. Bydd trafodaeth ar y dechrau am gerflunwaith ffigurol, dewch â delwedd o gerflun o ffurf ddynol i siarad amdano.

Nid oes angen profiad o waith celf er mwyn cymryd rhan. Darperir yr holl ddeunyddiau.

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £10 tuag at gost cynnal y gweithdy hwn, ond os nad yw hyn yn fforddiadwy i chi, lawrlwythwch y ffurflen hepgor taliad a'i hanfon at seran@susanwilliamsellis.org byddwn yn ymdrin â hyn yn gwbl gyfrinachol.