13 Hydref 2023 – 7:30pm
Hoffwn eich gwahodd i noson o gerddoriaeth yn y llyfrgell yn Plas Brondanw, gyda Gwilym Morus ac Osian Rhys Bydd hon yn noson gartrefol gyda chynulleidfa bach.
Mae Gwilym Morus yn chwarae cerddoriaeth werinol, fodern yn defnyddio effeithiau digidol yn gymysg â llais a gitâr. Mae’n cael ei ddisgrifio yn ‘angerddol, breuddwydiol a gwreiddiol’. Mae Osian Rhys yn gerddor sy’n wreiddiol o Lanystumdwy, sy’n perfformio caneuon gwerinol dan enw ei hun, ac fel prif leisydd y band roc amgen, Gwaed. Bydd yn perfformio amrywiaeth o ganeuon mewn ffordd gynil ar gitâr acwstig.